首页>
外文OA文献
>'Gelli ymddiried ynof i…' Pobl ifanc yn mynd ar goll ac sy'n cael, neu mewn perygl o gael, eu cam-drin drwy gamfanteisio rhywiol yng Ngogledd Cymru'
【2h】
'Gelli ymddiried ynof i…' Pobl ifanc yn mynd ar goll ac sy'n cael, neu mewn perygl o gael, eu cam-drin drwy gamfanteisio rhywiol yng Ngogledd Cymru'
Barnardo’s mae camfanteisio’n rhywiol ar blant (CSE) wedi bod yn flaenoriaeth strategol, ac yn faes allweddol ar gyfer datblygu arferion am fwy na dau ddegawd. Yng Nghymru, mae Barnardo’s Cymru wedi gweithio’n agos a Llywodraeth Cymru ers 2005 er mwyn cefnogi datblygu polisi cydnerth a chanllawiau arferion er mwyn delio a CSE yng Nghymru. Mae ymchwil sefydledig a thystiolaeth o arferion yn dangos cysylltiad cryf rhwng plant a phobl ifanc sy’n mynd ar goll a’r perygl o wynebu camfanteisio rhywiol. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae cyfres o erlyniadau proffil uchel mewn perthynas ag achosion o CSE wedi codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn a’r drosedd hon. Cafodd rhwydweithiau o droseddwyr a fu’n cam-drin plant a phobl ifanc am nifer o flynyddoedd eu datguddio yn Rotherham, Rochdale, Derby, Sheffield, Manceinion a Rhydychen, gan arwain at gynnydd mewn gweithgaredd ar draws pob sector er mwyn gwella diogelwch ac amharu ar dramgwyddwyr. Mae’r ymchwil hwn yn amcanu at wella dealltwriaeth o natur y berthynas rhwng mynd ar goll a CSE, a gwella ymatebion i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl. Er bod y mater hwn wedi cael ei ystyried ar lefel y DU, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi cael ei wneud yng Nghymru i blant a phobl ifanc sy’n mynd ar goll a’r berthynas rhwng mynd ar goll a’r risg o ddioddef CSE. Cynhaliwyd yr ymchwil hwn yng Ngogledd Cymru, ond gallai fod yn ddefnyddiol fel sail I arferion ar draws Cymru.
展开▼